Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (216)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (60 munud) NDM5563 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE ar gyfer 2014-2020, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2014.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 10 Medi 2014.
Dogfennau Ategol |
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5565 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn well gyda’i gilydd ac y dylai’r Alban ddewis aros yn y DU ar 18 Medi 2014.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu popeth ar ôl 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru' a rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod dyfodol yr Alban yn fater i bobl yr Alban.
2. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o wasanaethu'r cysylltiadau cryf rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn yw drwy ysbryd o gydweithredu a chydraddoldeb.
3. Yn nodi y byddai ymwreiddio'r Fformiwla Barnett, fel yr addawyd gan bleidiau'r DU yn yr ymgyrch 'Na' ar gyfer y refferendwm ar 18 Medi 2014, yn niweidiol i Gymru.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Cymru, beth bynnag fo'r canlyniad, siarad ag un llais, ac yn galw am weithredu'n gyflym yr argymhellion yn Rhannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac am sefydlu confensiwn cyfansoddiadau ledled y DU i greu cynllun drafft am undeb newydd.
Mae Rhan 1 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn:
http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf
Mae Rhan 2 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn:
|
5 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5562 Elin Jones AC (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod 266,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael eu talu llai na'r cyflog byw.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at greu cyflog byw yng Nghymru drwy:
a) sefydlu cyflog byw ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru;
b) gweithio gyda chyflogwyr i esbonio manteision talu'r cyflog byw; a
c) cyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Cyflogau Isel i sicrhau bod yr isafswm cyflog yn codi i lefel y cyflog byw erbyn 2020.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi ymhellach fod 98.4% o fusnesau yng Nghymru yn fusnesau micro neu fach, a bod angen sicrhau bod unrhyw bolisi cyflog byw yn ddichonadwy yn ogystal â sicrhau bod ein busnesau bach yn goroesi.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu 2 c) a rhoi yn ei le:
Sefydlu adolygiad annibynnol i ymgynghori ar sut i bennu cyflog byw teg, gan weithio gyda rhanddeiliaid fel y Sefydliad Cyflog Byw, heb niweidio cyfleoedd cyflogaeth ac er mwyn gwella camau gorfodi.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith y bydd 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru yn derbyn toriad treth o £800 o fis Ebrill 2015 ymlaen diolch i benderfyniad Llywodraeth y DU i godi'r trothwy treth incwm i £10,500, ac y bydd hyn yn cynorthwyo'r gweithwyr hynny yng Nghymru sy'n cael eu talu llai na'r cyflog byw.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai'r trothwy treth incwm gael ei godi i £12,500, i sicrhau na fydd gweithwyr sy’n cael eu talu’r cyflog isafswm yn gorfod talu treth incwm o gwbl. |
Cyfnod Pleidleisio |
6 Dadl Fer (30 munud) NDM5564 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Gohebiaeth ar bapur: hawl y defnyddiwr i ddewis |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Medi 2014